top of page

William Jones - Mordaith y Mimosa

Dros gant a hanner o flynyddoedd yn ôl fe hwyliodd criw dewr o Gymry, ar fwrdd y Mimosa, er mwyn darganfod bywyd gwell ochr draw'r byd.

Yn y sioe hwyliog yma cewch gyfle i ymuno gyda un o'r teithwyr hynny, William Jones, ar ei siwrnai arwrol o’r Bala i Batagonia.

​

Caiff y plant eu cludo yn ôl mewn amser i brofi caledwch bywyd yng Nghymru yn 1865; clywed am obaith mawr cynllun Michael D. Jones; profi’r hwyl a'r trasiedi ar fwrdd y Mimosa, yn ogystal â'r realiti oedd yn ei disgwyl y Cymry truenus ar lannau Patagonia

​

Nid oes pecyn addysgiadol ar gael i gydfynd â'r sioe yma, ond mae llawer o adnoddau ar gael yn www.150patagonia.cymru/

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Tîm Creadigol

Actor

Carwyn Jones

Cyfarwyddwr

Janet Aethwy

Awdur

Aled Richards

Archebwch William Jones - Mordaith y Mimosa

 

Pris

 

Un sesiwn - £195 + TAW

Dau sesiwn - £320 + TAW

Tair sesiwn - £375 + TAW

 

Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd. 
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.

bottom of page