Thomas Telford - Darganfod Pontcysyllte
Yn y sioe mae Thomas Telford yn dychwelyd i Gymru unwaith eto gan ei fod wedi clywed fod ei gampwaith - Dyfrbont Pontcysyllte - wedi ennill statws Safle Treftadaeth y Byd.
Wrth adrodd hanes ei fywyd, mae’n ceisio cymorth y gynulleidfa i ddod o hyd i’w gampwaith. Dyma gyfle i ddysgu am gyfnod eithriadol yn hanes Cymru - cyfnod y Chwyldro Diwydiannol - ac yn benodol am gyfraniad y camlesi fel dull o gario nwyddau i’r porthladdoedd mawr, a wnaeth drawsnewid ein gwlad am byth.
​
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Tîm Creadigol
Actor
Emyr Gibson
Cyfarwyddwr
Martin Thomas
Awdur
Lois Llywelyn Williams
Archebwch Thomas Telford - Darganfod Pontcysyllte
Pris
Un sesiwn - £195 + TAW
Dau sesiwn - £320 + TAW
Tair sesiwn - £375 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.