top of page

Robert Recorde - Beth yw'r Broblem?

Cymro di-hafal a chanddo broblem i’w datrys.

Yn y sioe hwyliog yma bydd y disgyblion yn cynorthwyo Robert â chyfres o broblemau mathemategol gweledol a rhyngweithiol trwy ddefnyddio amrywiol ddulliau a strategaethau. Wrth ddatrys y problemau byddant yn dysgu mwy am y Cymro diddorol yma a’i waddol anhygoel sy’n amlwg yn ein bywydau bob dydd.

​

Bydd y sioe yn rhyfeddu, diddanu ac yn addysgu disgyblion CA2 beth bynnag yw eu gallu mathemategol, gan hybu datblygiad rhesymu rhifyddol, a fydd o gymorth uniongyrchol i baratoi dysgwyr ar gyfer y Profion Rhifedd Cenedlaethol (Rhesymu).

​

Mae pecyn o adnoddau dysgu, sydd yn llawn syniadau am weithgarwch pellach i gyd fynd â’r perfformiad ar gael - ymwelwch â'n siop i ddarganfod mwy.

​

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Tîm Creadigol

Actor

Dion Davies

Cyfarwyddwr

Janet Aethwy

Awdur

Aled O. Richards

Archebwch Robert Recorde - Beth yw'r Broblem?

 

Pris

 

Un sesiwn - £195 + TAW

Dau sesiwn - £320 + TAW

Tair sesiwn - £375 + TAW

 

Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd. 
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.

bottom of page