top of page

Roald Dahl - Dychmygwch!

Mae’r sioe un dyn yma, a chafodd ei gomisiynu gan Gyngor Llyfrau Cymru fel rhan o ddathliadau Roald Dahl 100, yn ffordd hwyliog i annog plant i ddarllen.

Yn y sioe, bydd y plant yn cyfarfod ag Alf - cymeriad lliwgar, diddorol, sy’n CARU darllen. Yn ei gôt amryliw unigryw, sy'n llond pocedi ar gyfer ei lyfrau, bydd Alf yn rhannu gyda’r plant ei gariad tuag at ddarllen, ac yn datgelu’r anturiaethau sy’n digwydd iddo pan mae’n dechrau darllen. Ei hoff awdur yn y byd yw Roald Dahl.

​

Un llyfr ar y tro, bydd Alf, yn ei ffordd ecsentrig, yn cyflwyno rhai o straeon yr awdur ac yn darllen ei hoff ddarnau. Yna, bydd ei ddychymyg yn dechrau crwydro, a bydd yn dangos i’r plant sut mae darllen straeon fel hyn yn gwneud iddo neud pethau dwl eraill - a dyma gychwyn ar yr hwyl!

 

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Tîm Creadigol

Actor

Tudur Phillips

Cyfarwyddwr

Janet Aethwy

Awdur

Anni LlÅ·n

Archebwch Roald Dahl - Dychmygwch!

 

Pris

​

Un sesiwn - £195 + TAW

Dau sesiwn - £320 + TAW

Tair sesiwn - £375 + TAW

 

Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd. 
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.

bottom of page