Gweithdy Buddug
Gweithdy bywiog ar-lein yng nghwmni’r Prifardd – Hedd Wyn. Mi fydd y gweithdy yn trin a thrafod Barddoniaeth, Rhyfel ac Eisteddfodau mewn ffordd hwylus, yn ogystal â rhoi cyfle i’r plant ddatblygu hyder a dyfeisgarwch drwy gyd-weithio a pherfformio.
​
Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal gan y Prif Fardd Hedd Wyn ei hun!
Addas ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3 - 7
​
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Pecyn Ffilm Fer a Gweithdy
Gan nad yw hi’n bosib i ni ymuno efo chi yn yr ysgol, dyma gyfle i ddod a hanes yn fyw yn eich dosbarth mewn ffordd rithiol! Mwynhewch wylio ffilm fer, oddeutu chwarter awr o hyd, am gymeriad o hanes Cymru cyn cymryd rhan mewn gweithdy rhithiol, 45 munud o hyd a fydd yn archwilio byd y cymeriad efo’r plant.
Mae’r pecyn ffilm fer a gweithdy ar gael am £85 + TAW ar gyfer un dosbarth (hyd at 35 o blant).
Gallwn gynnal gweithdai rhithiol drwy Teams, Zoom neu Google Classroom. Bydd Mewn Cymeriad yn danfon adnoddau perthnasol i’r ysgol o flaen llaw.
​
Gyda diolch i'r Gronfa Adferiad Ddiwylliannol am gefnogi'r gwaith yma.