top of page
Barti Ddu - Cnaf Cyfrwys y Caribî
Dewch i gwrdd â Barti Ddu, y môr-leidr mwyaf tanllyd, lliwgar a llwyddiannus ohonyn nhw i gyd!
Gasnewydd Bach, yn Sir Benfro yn wreiddiol, nid dewis Barti Ddu oedd bod yn fôr-leidr. Eto’i gyd fe ddatblygodd yn arweinydd eofn a ysbeiliodd dros 400 o longau gan arwsydo morwyr y Caribî.
Beth oedd môr-ladron yn ei fwyta? Beth oedd hoff ddiod Barti Ddu? Pa reolau hynod oedd ar fwrdd ei long?
Yn y sioe, cewch ddarganfod ffeithiau difyr ac annisgwyl am Barti Ddu a bywyd y môr leidr!
Mae'r sioe yma yn addas ar gyfer disgyblion Cam Cynnydd 2 yn ogystal â Cam Cynnydd 3.
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

black-bart.jpg.pagespeed.ce.kSFLPEz-5W

black-bart.jpg.pagespeed.ce.kSFLPEz-5W
1/1
Tîm Creadigol
Actor
Dion Davies
Cyfarwyddwr
Janet Aethwy
Awdur
Aled Richards
bottom of page
