Cranogwen
Morwres. Ysgolfeistres. Bardd. Darlithydd. Pregethwr.
Golygydd. Ymgyrchydd. Ffrind.
Mewn oes pan oedd disgwyl i ferched eistedd adref yn gwnio’n dawel fe gymerodd y ferch arbennig hon lwybr gwbl wahanol i’w chyfoedion. Daeth Sarah Jane Rees yn enwog nid yn unig yng Nghymru ond ym mhrif ddinasoedd Lloegr ac America. Dyma sioe am ferch unigryw, amryddawn ac annisgwyl. Dyma hanes Cranogwen.

Amdanom ni
Mae Mewn Cymeriad yn gwmni theatr sy’n llwyfannu sioeau am gymeriadau a straeon o hanes Cymru
Pan gychwynnodd y cwmni nôl yn 2014, y bwriad oedd darparu sioeau rhyngweithiol, un dyn/un ferch, i ysgolion cynradd trwy Gymru gyfan, gan gynnig awr addysgiadol ac adloniadol i blant. Erbyn hyn, mae gan y cwmni ystod eang o gyflwyniadau dramatig ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, yn blant ac oedolion, oll yn canolbwyntio ar gymeriad neu stori o hanes Cymru – o gyfnod y Celtiaid i gofnodi 20 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Man cychwyn yw’r sioeau ar gyfer astudiaeth bellach, ac i gydfynd â phob cymeriad mae pecyn addysgol/gweithgareddau wedi’i baratoi yn ofalus fel ei fod yn berthnasol i ofynion llythrennedd a rhifedd y cwricwlwm Cymreig, gan ddarparu adnoddau newydd i athrawon i addysgu ac i ysbrydoli plant i ddysgu mwy am hanes Cymru.
Cysylltwch
Gair o’r ysgolion...
Harri Tudur
Cyflwyniad rhyngweithiol a diddorol sydd yn gwneud hanes yn rhywbeth byw. Diolch!
Ysgol Melin Gruffydd, Caerdydd