Yr Arglwydd Rhys. Arwr y Deheubarth
Dyn a oedd wastad yn achub y blaen. Pwy oedd yr Arglwydd Rhys, y Cymro cyntaf i adeiladu castell allan o garreg a'r dyn a gynhaliodd yr Eisteddfod gyntaf erioed?
Roedd y Normaniaid yn ei gasau am iddo losgi eu cestyll a dwyn eu tir - ei dir e’ yn y lle cynta’! Roedd brenin Lloegr yn amheus ohono ac felly am fod yn ffrindiau - rhag ofn! Roedd yr offeiriaid a’r mynachod yn ei barchu am iddo roi tir iddyn nhw adeiladu mynachlogydd newydd sbon. Ac roedd y beirdd a’r cerddorion yn hoff iawn ohono am iddo gynnal yr Eisteddfod gyntaf erioed yn ei gastell mawreddog yn 1176!
Mae pecyn o adnoddau dysgu, sydd yn llawn syniadau am weithgarwch pellach i gyd fynd â’r perfformiad ar gael - ymwelwch â'n siop i ddarganfod mwy.
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.
Tîm Creadigol
Actor
Dion Davies
Cyfarwyddwr
Janet Aethwy
Awdur
Aled O. Richards
Archebwch Yr Arglwydd Rhys. Arwr y Deheubarth
Pris
Un sesiwn - £185 + TAW
Dau sesiwn - £295 + TAW
Tair sesiwn - £350 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.