top of page

Glenys y Siop - Byw drwy’r Blitz

Dros 75 mlynedd yn ôl, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymosododd y Luftwaffe ar ddinas Abertawe, am dair noson yn olynol - ymosodiadau enwog y “Three Nights’ Blitz” : digwyddiad unigryw yn hanes Cymru yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

I goffau’r achlysur, dyma gynhyrchiad newydd gan y cwmni Mewn Cymeriad - drama ddoniol, dwys a difyr yn cyflwyno digwyddiadau’r Blitz, a hefyd bywyd yn gyffredinol ar yr “Home Front”, drwy lygaid y cymeriad hoffus "Glenys y Siop” - Glenys Myfanwy Jenkins. Perchennog siop y gornel - "Rhondda Stores” - yn ardal Mount Pleasant, Abertawe, yw Glen. Mae ei gwr Morgan, i ffwrdd yn y fyddin, ac felly mae’n rhaid iddi hi redeg y siop ac ymdopi â holl anawsterau’r rhyfel - prinderau, masgiau nwy, dogni, “llochesau”, faciwîs ac ati - ar ei phen ei hun. Am ben hynny mae’n rhaid iddi hi a’i chymdogion fyw drwy nosweithiau ysgytwol y Blitz yn Chwefror 1941, pan mae y rhan fwyaf o ganol eu tre - a rhannau o'u cymuned - yn cael eu dinistrio.

​

Drama fywiog, melys-chwerw, fydd yn cyffwrdd â themâu a theimladau perthnasol i bobol ifanc, mewn stori hwyliog, drist ar adegau, ond positif ac yn llawn gobaith hefyd, yn seiliedig ar dystiolaeth am brofiad a bywyd dinasyddion Abertawe a’r cylch yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

​

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Tîm Creadigol

Actor

Anwen Carlisle

Cyfarwyddwr

Janet Aethwy

Awdur

Manon Eames

Archebwch Glenys y Siop - Byw drwy’r Blitz

 

Pris

​

Un sesiwn - £195 + TAW

Dau sesiwn - £320 + TAW

Tair sesiwn - £375 + TAW

 

Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd. 
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.

bottom of page