top of page
Geiriau
Mae gan Alffi ddwy iaith- Cymraeg, iaith ei fam, a Saesneg, iaith ei dad. Ond mae’n hawdd dechrau pob sgwrs yn Saesneg, a llenwi pob ffurflen yn Saesneg hefyd- Wedi’r cyfan, mae pawb yn siarad yr iaith honno!
Ond mae dysgu am gerddoriaeth Gymraeg yn yr ysgol yn agor llygad Alffi i fyd lle mae’n bosib byw drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’n dod i wybod mwy am y ffordd mae’r byd yn ehangu pan mae’n trin ei ddwy iaith yn gyfartal. Mae ei stori yn cael ei adrodd ynghyd â’i hanes adref, y tensiwn rhwng ei rieni a realiti byw fel person ifanc yn y Gymru fodern.
Cefnogwyd y cynhyrchiad yma gan Gomisiynydd y Gymraeg

Geiriau_edited

Geiriau

Untitled design_edited

Geiriau_edited
1/3
Tîm Creadigol
Actor
Owen Alun
Cyfarwyddwr
Sion Pritchard
Awdur
Manon Steffan Ross
bottom of page