top of page

Dic Penderyn - Arwr y Bobl Gyffredin

Dewch ar daith yn ôl i Oes Fictoria, ar siwrne i Ferthyr Tudful, 1831, yng nghwmni Dic Penderyn.

Cewch ddysgu sut odd bywyd i’r bobl gyffredin a sut brofiad fyddai wedi bod i weithio yn y gweithfeydd haearn yn ystod cyfnod o galedi a gorthrwm y meistri pwerus a chyfoethog. Mae protest ar droed ac mae Dic Penderyn, ynghyd â channoedd o’i gydweithwyr, yn codi llais er mwyn mynnu newid y drefn. Ond methiant fu’r gwrthryfel, a bu’n rhaid i Dic dalu’r pris eithaf.

​

Mae pecyn o adnoddau dysgu, sydd yn llawn syniadau am weithgarwch pellach i gyd fynd â’r perfformiad ar gael - ymwelwch â'n siop i ddarganfod mwy.

​

Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.

Tîm Creadigol

Actor

Dafydd Weeks

Cyfarwyddwr

Janet Aethwy

Awdur

Mirain Alaw Jones

Archebwch Dic Penderyn - Arwr y Bobl Gyffredin

 

Pris

 

Un sesiwn - £195 + TAW

Dau sesiwn - £320 + TAW

Tair sesiwn - £375 + TAW

 

Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd. 
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.

bottom of page