10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod)
Dewch i ddysgu am bobl a digwyddiadau o hanes Cymru; straeon am ormes a rhyddid, anturiaethau a gwrthryfel, trasiedi a dathliad, mewn gweithdy rhyngweithiol arbennig iawn.
Mae’r sesiwn yn seiledig ar 10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod),llyfr sydd â’r nod o addysgu plant Cymru am hanes eu cenedl. Yn ystod y gweithdy, caiff disgyblion gyfle i ymgyfarwyddo gyda chymeriadau a digwyddiadau pwysig sydd wedi siapio'n gwlad ac i ddod ag un o'r straeon yn fyw yn y dosbarth. O Gwenllian i Dic Penderyn, neu o Barti Ddu i Aberfan, ymunwch gyda ni wrth i ni edrych ar hanes ddoe a breuddwydio am hanes fory.
​
Mae'r gweithdy yma yn ffordd wych i gyflwyno ag archwilio 10 Stori o Hanes Cymru (Y Dylai Pawb eu Gwybod) gan Ifan Morgan Jones a darluniau gan Telor Gwyn mewn ffordd ymarferol gan ddefnyddio'r celfyddydau mynnegianol. Mae'r gyfrol yn wledd i'r ymennydd, y galon a'r llygaid, ac yn llawn dop o fapiau, darluniau a phytiau bach o wybodaeth ddifyr.
​
Cynhyrchiad Mewn Cymeriad gyda chefnogaeth Cyhoeddiadau Rily.
Mae'r sioe yma yn addas ar gyfer disgyblion Cam Cynnydd 3.
Cyflwyno hanes Cymru gyda hwyl a chyffro.


Dyfeisiwyd gan
Anwen Carlisle
​
​
Sion Emyr
Ffion Glyn
Archebwch 10 Stori o Hanes Cymru
(Y Dylai Pawb eu Gwybod)
Pris
Un sesiwn - £195 + TAW
Dau sesiwn - £320 + TAW
Tair sesiwn - £375 + TAW
Mae pob sesiwn yn para oddeutu awr o hyd.
Hyd at 60 disgybl ym mhob sesiwn.